MonaROBERTSROBERTS - MONA, 29ain o Fehefin 2021, o Y Garreg Fawr, Amlwch, gynt o Pentrefelin, Amlwch, hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, yn 91 mlwydd oed. Gwraig annwyl y diweddar Elias (Lei). Mam gariadus Iola a'i phriod Dafydd. Nain falch Sharon, Aled, Gwyn a Katie. Hen nain hwyliog Tomos, Wiliam ac Alice. Bydd colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau. Yn dilyn canllawiau COVID, cynhelir gwasanaeth preifat yn Eglwys Sant Eleth, Amlwch, Dydd Sadwrn 10fed o Orffennaf 2021 am 11 o'r gloch, mi fydd yr orymdaith yn pasio heibio Pentrefelin cyn ei rhoi i orffwys ym mynwent Amlwch. Bydd croeso i bawb dalu teyrnged gerllaw y fynwent, gan ddilyn pellter cymdeithasol. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof am Mona tuag at Nyrsys Ardal Amlwch (sieciau yn daladwy i 'John Hughes a'i Fab Cyfrif Rhoddion'). Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr, John Hughes a'i Fab, Britannia, Porth Amlwch, LL68 9HA. Ffôn: 01407 830461. Ebôst: info@johnhughesandson.co.uk
Notify me with new activity on this notice