Evan AlunROBERTS19eg o Hydref 2024. Hunodd Alun yn dawel yng Nghartref Meddyg Care, Porthmadog yn 77 mlwydd oed, o 1, Fawnog Wen, Penrhyndeudraeth. Gŵr ffyddlon Laura; tad cariadus i Susan, Iolo a'r ddiweddar Carol; taid hoffus i Michael, Lauren, Nathan ac Eleanor; tad yng nghyfraith annwyl Steven; taid yng nghyfraith anwylaf i Rhys; hen-daid balch i Malen, Lliwen a'r diweddar Gruff; brawd tyner i Raymond, Sian a'r diweddar Trefor. Ffrind triw i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Nazareth, Penrhyndeudraeth ar ddydd Gwener, 8fed o Dachwedd 2024 am 11 y bore ac yna i ddilyn ym Mynwent Minffordd. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Alun tuag at 'Alzheimer's Society' a Hafod Hedd, Ysbyty Bryn Beryl drwy law'r ymgymerwyr.
Heol Dulyn, Tremadog,
Gwynedd LL49 9RH
01766512091
post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates