JosephineTHOMAS (Josie)THOMAS - JOSEPHINE (Josie), 1af Awst 2020. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 88 mlwydd oed, o 16, Maes Gwyndy, Trawsfynydd. Gwraig ffyddlon y diweddar Gwynne; mam gariadus Bryngwyn, Elspeth, Graham a'r diweddar Sian; mam-yng-nghyfraith Jane, Gordon, Sharon a Dei; nain arbennig Gareth, Barry, Joel, Liam, Jayne, Lona, Delme a Celedd; hen nain annwyl ei holl orwyrion a chwaer Sian, John a Lys a'r diweddar Cass. Gwasanaeth preifat, dan yr amgylchiadau presenol, ar lan bedd yn mynwent Salem, Trawsfynydd ar ddydd Gwener 14eg o Awst, 2020. Bydd yr hers yn cychwyn o 16, Maes Gwyndy, Trawsfynydd am 10.30y.b. Bydd wedyn yn parhau ar ei thaith at mynwent Salem. Byddai'n gysur i'r teulu pe dymunai cyfeillion a chymdogion Josie ddod allan i dalu'r deyrnged olaf gan ddilyn canllawiau pellter presennol. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Wales- NRAS (National Rheumatoid Arthritis Society - Wales) trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog, LL49 9RH. Ffon 01766 512091.
Notify me with new activity on this notice