BuddugTHOMASMason Yn dawel ar ddydd Sul Medi 27, wedi salwch hir a brwydrodd yn ddewr yn Ysbyty'r Tywysog Philip gyda'i theulu o'i chwmpas, Buddug o Heol Bryngwili, Hendy. Priod hoff y diweddar Gwyn, merch annwyl y diweddar Ritchie a Lizzie Mason (Bryngwyn Mawr), mam gariadus Dyfrig a'r diweddar Arwel, mam-yng-nghyfraith barchus Tean, mamgu dyner Dylan, Anwen, Aled, Tal a Mabon, hen famgu addfwyn Ffion ac Elis a chwaer hoffus Dan ac Ifor. Yn gorwedd yng nghapel gorffwys Wyn Bishop tan yr angladd ar ddydd Mawrth Hydref 13, bydd yr angladd yn gadael cartref Buddug am 10.30 o'r gloch, i deithio trwy'r Hendy tuag at y Black Horse a nôl i Amlosgfa Llanelli. Dim blodau, rhoddion os dymunir i Ymchwil Canser trwy law Nia Wyn Bishop, Waunddewi, 43 Heol Cross Hands, Gorslas, Llanelli, SA14 6RR.
Notify me with new activity on this notice