Sarah GertrudeWALTERS(Gertie) Yn dawel yn Ysbyty Tywysog Philip ar fore Sadwrn, Gorffennaf 17 yn 91 mlwydd oed hunodd Gertie, Bryneryl, Cribyn, mam a mam yng nghyfraith dyner Morwen a Ronald, mamgu hoffus Dyfed, Hâf ac Alan, hen famgu annwyl Ifan a Fflur. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Seion, Cwrtnewydd ddydd Iau, Gorffennaf 22, 2010 am 2 o'r gloch, ac i ddilyn ym Mynwent Capel Brynhafod, Gorsgoch. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir tuag at Canolfan Ddydd Hafan Deg, Llambed ac Uned Penderfyniadau Clinigol, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli trwy law Cenfil Reeves, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg. Ffôn. 01545 590 254.
Notify me with new activity on this notice