DorothyWILLIAMS (NEE PEPPER)WILLIAMS - DOROTHY NEE PEPPER Gorffennaf 30, 2020. Yn dawel yn Ysbyty Eryri, ac o Gartref Gwynfa, Caernarfon, wedi cystudd hir a wynebodd yn ddewr a gyda gwên. Gwraig annwyl y diweddar Arwel, a mam gariadus Anwen, Linda a Derfel; mam-yng-nghyfraith Keith, nain Luke a Ffion a Ben a Gwen, hen-nain Kai a Ted, chwaer Iris a Laureen a chwaer-yng-nghyfraith Cedric a Maureen a'r diweddar Griff a Frank. Oherwydd yr amgylchiadau presennol yng nghyd-destun Covid-19 cynhelir gwasanaeth hollol breifat i nifer fechan yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd, brynhawn Mawrth, Awst 11. Dilynir hynny trwy wasanaeth cyhoeddus byr ym Mynwent Llanbeblig am hanner dydd, brynhawn Mawrth, Medi 1. Cyflwynir blodau gan y teulu'n unig ond os dymunir cyfrannu er cof amdani, derbynnir yn ddiolchgar tuag at Parkinson's UK sy'n gwneud gwaith arbennig dros bobl leol trwy noddi ymchwil a darparu cefnogaeth ymarferol. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon, LL55 1AT, 01286 678658. July 30, 2020. Peacefully at Ysbyty Eryri, and of Gwynfa Residential Home, Caernarfon, following a long illness that was faced bravely and with a smile. Beloved wife of the late Arwel, and loving mother of Anwen, Linda and Derfel; mother-in-law of Keith, grandmother of Luke and Ffion and Ben and Gwen, great-grandmother of Kai and Ted, sister of Iris and Laureen and sister-in-law of Cedric and Maureen and the late Griff and Frank. Due to the current circumstances regarding Covid-19 a strictly private service will be held for a small number at Bangor Crematorium at noon on Tuesday, August 11. This will be followed by a brief public interment service at Llanbeblig Cemetery, Caernarfon, at noon, Tuesday, September 1. Family flowers only but donations in her memory will be gratefully accepted towards Parkinson's UK which does valuable work for local people by sponsoring research and providing practical support. Enquiries to Roberts & Owen, 15 Bangor Street, Caernarfon, LL55 1AT, 01286 678658.
Notify me with new activity on this notice