Huw TudurWILLIAMS (Huw Tatws)WILLIAMS - HUW TUDUR (Huw Tatws), yn sydyn yn Hosbis Dewi Sant, Caergybi wedi gwaeledd byr ar 22ain o Fedi 2021 yn 30 mlwydd oed, o 9 Rhos Rug, Llanrug, gynt o Stabal Bach, Trefadog, Llanfaethlu. Gwr tyner a chariadus i Elen, mab annwyl i Dewi a'r diweddar Iona (Trefadog) mab-yng-nghyfraith Irfon a Heddwen, brawd hoffus i Brynmor a Deian, brawd-yng-nghyfraith Ceri, Iwan a Carmen, ac ewythr hwyliog i Aeron a Llyr, Erin, Efan ac Osian. Bydd colled trist ac atgofion melys amdano. Angladd dydd Sadwrn, 2 Hydref. Gwasanaeth yng Nghapel Bethel Hen, Llanrhuddlad, LL65 4HR am 11.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel Ebenezer, Llanfaethlu. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Hosbis Dewi Sant Caergybi, trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Notify me with new activity on this notice