Eleth VaughanRIDENHOUR (Pritchard)RIDENHOUR - ELETH VAUGHAN (Pritchard) Gorffennaf 23ain, 2019. Yn frawychus, dan amgylchiadau llawn tristwch yn 56 mlwydd oed ac wedi ymgartrefu yn Lenexa, Kansas bu farw Eleth. Yn berson caredig ac yn llawn bywyd gwraig ffyddlon Bob, mam gariadus i Lee Vaughan (Mary) a'r diweddar Tomos Ifan. Gynt o Garreg-Gron, Garndolbenmaen, merch annwylaf i Arfon ac Olwen, chwaer hyfryd i Dewi (Ann) Menna ac Elin (Alun). Modryb, chyfneither a ffrind hoffus i bawb. Cynhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys y Methodistiaid 'Asbury Avenue' dan law y Parchedig Lee Johnson dydd Llun, Gorffennaf 29fed 2019, gyda'r teulu o Gymru yn bresenol. Ergyd a cholled enfawr i bawb oedd yn ei hadnabod. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at 'Ysgoloriath Tomos Ridenhour'. Cynhelir gwasanaeth Coffa i gofio am Eleth a Tomos yng Nghapel Horeb, Garndolbenmaen, Medi 15fed 2019. Mae croeso i bawb ymuno i ddathlu eu bywydau a chofio amdanynt. Os fydd pawb mor garedig a gwisgo item mewn pinc. Mwy o fanylion i'w ddilyn. Dymuna'r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd ar adeg mor drist a thorcalonus. Cyswllt:Menna 07821642901
Notify me with new activity on this notice
Enter your email address to recieve a notification for any new activity on this notice.
Register today to set up custom notification and save notice's that are important to you.
Just notify me
Register too
Are you sure you want to turn off notifications on this notice?