GwennieEVANSYn dawel ar ddydd Sul, Hydref 10fed yng Nghartref Gofal Glanmarlais yn 89 mlwydd oed bu farw Gwennie, gynt o Lôn Esgair, Heol Henfwlch, Caerfyrddin. Priod hoff y diweddar John, mam gariadus Malcolm, Christopher a Gillian, mam-gu addfwyn Katie a Dean, chwaer annwyl Brynmor, mam-yng-nghyfraith barchus Patricia, Susan a Dai. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Noddfa, Foelcwan dydd Iau, Hydref 21ain 2021 am 2.00y.p. Rhoddion er cof, os dymunir, i Alzheimer's Research UK trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 237100 / 01267 241626
Notify me with new activity on this notice