SallyDERBYSHIRE.3ydd o Ragfyr 2024.
Gynt o Nantydeilie, Llanuwchllyn, yn 89 mlwydd oed.
Gwraig gariadus a ffrind gorau y diweddar Dennis, Mam a Mam-yng-nghyfraith ofalgar a siriol i Menna ac Alwyn, Rhian ac Elwyn, Geraint a Carys, Llion ac Alwen. Nain a Hen-Nain hwyliog a direidus Rhian Haf a Ewen, Rhys a Viv, Wini, Huw a Gemma, Gareth, Owen a Sophie, Rhiannon, Elis, Meredydd a Sara, Cledan, Magi, Eira ac Efa.
Gwasanaeth yn yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, dydd Gwener, 20fed o Ragfyr am 11 o'r gloch. I ddilyn i'r teulu yn unig yn y fynwent.
Yn lle blodau, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Sefydliad y Galon trwy law Mrs. Menna Owen, Bwthyn Buchesydd, Rhydymain, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2DN.
Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn: 01650 531 240.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Sally