Jane WilliamsOWEN (Jennie Ty'n Gors)OWEN - JANE WILLIAMS (Jennie Ty'n Gors), 23ain Chwefror 2020. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli yn 97 mlwydd oed, o Ty'n Gors, Llanarmon. Priod annwyl a ffyddlon y diweddar John (Jac), mam ofalus Elfed, Enid, Einion ac Edwina, mam-yng-nghyfraith ffeind Chris, Alun, Jean a John a 'Nain Gors' gariadus i'w holl wyrion, wyresau, gor-wyrion a gor-wyresau. Angladd cyhoeddus ar ddydd Gwener, 28ain Chwefror am 1 o'r gloch yng Nghapel Siloh, Chwilog ac fe'i rhoddir i orffwys ym Mynwent Chwilog. Blodau gan y teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gyfeillion Ysbyty Bryn Beryl a Neuadd Goffa Chwilog trwy law'r ymgymerwr, Ifan Hughes, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffôn 01758 750238.
Notify me with new activity on this notice