John Alun CedricDAVIES (Ced)Ced Yn sydyn ond yn dawel ar ddydd Iau Ebrill 22 yn Ysbyty Glangwili, Ced yn 91 mlwydd oed o Murmur-y-Llan, Heol yr Eglwys, Gorslas, Priod hoff y diweddar Gertie, tad cariadus Michael a Judith, Malcolm a Debbie a Rosanne, tadcu a addolwyd gan Jonathan a Heather, Ben, Genna, Shaun a Rhys a hen dadcu balch Cali. Yn gorwedd yng nghapel gorffwys Wyn Bishop tan yr angladd ar ddydd Llun Mai 10, gwasanaeth i'r teulu yn Amlosgfa Llanelli. Torch deuluol yn unig, rhoddion os dymunir i Ganolfan Amanwy, Ysgol Dyffryn Aman trwy law Nia Wyn Bishop, Waunddewi, 43 Heol Cross Hands, Gorslas, Llanelli, SA14 6RR. Bydd yr angladd yn gadael Murmur-y-Llan am 10.30 o'r gloch, i unrhyw un sydd am dalu teyrnged.
Notify me with new activity on this notice