William Rees (Wil Blaenpant)DAVIESHunodd yn dawel ddydd Sadwrn Awst 13eg 2022 yn Ysbyty Bronglais, yn 98 mlwydd oed, William Rees, Gwelfryn, 2 Glynaeron, Llangeitho. Priod annwyl y diweddar Bessie, tad hoffus Valmai ac Alwyn, tad yng nghyfraith parchus Gwyndaf, tadcu cariadus Alun, Rhian, Deian, Cari ac Elena a hen dadcu Annabel a Leila, brawd Eirys. Gwasanaeth Preifat yng nghapel Gwynfil Llangeitho. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof os dymunir tuag at Cronfa Cardiovascular Ceredigion trwy law Tom Eurfyl Jones a'i Fab, Trefnwr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB. Ffôn: (01974) 298500.
Notify me with new activity on this notice