MorwenaELIASYn dawel tra yng ngofal tyner Cartref Croeso, Pencader ar ddydd Iau 9fed Gorffennaf, 2020 hunodd Morwena, Gwelfro, Saron, Llandysul yn 90 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Elwyn, mam annwyl Marion a Carol, mam-yng-nghyfraith barchus Geraint a Wyn, mamgu gariadus Catrin, Sara, Lowri a Mark a hen famgu addfwyn Luke, Dylan, Rhys, Efa, Eleri a'r diweddar Joshua. Gwasanaeth Angladdol Hollol Breifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ac yna rhoddir ei gweddillion i orffwys ym Mynwent Capel Carmel, Prengwyn. Derbynnir cyfraniadau er cof, os dymuner, tuag at Meddygfa Llynyfran, Llandysul trwy law'r Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, SA44 5QH Ffôn (01239) 851005. www.lewisfunerals.co.uk
Notify me with new activity on this notice