ElainHELEDDHELEDD. ELAIN 16eg o Awst 2019. Yn dawel yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, o 4, Penygarth, Bryncrug, yn 45 mlwydd oed. Cymar annwyl Tudor; merch amhrisiadwy Alun a Rhian Puw, Hafod y Coed, Llanuwchllyn; chwaer arbennig Gwion a'i briod Cei, modryb hwyliog Gwern a Brengain, wyres, nith, cyfnither a ffrind hoff. Gwasanaeth cyhoeddus i ddiolch am ei bywyd yn Hen Gapel, Llanuwchllyn, ddydd Mawrth 27ain o Awst am 1 o'r gloch. I ddilyn yn y Fynwent Newydd, i'r teulu yn unig. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ysgol Llanbrynmair ac elusennau oedd yn agos at galon Elain, trwy law Mr. Arwel Pierce, Llain-y-Grug, Bryncrug, Tywyn, Gwynedd, LL36 9RB. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn: 01650 531 240.
Notify me with new activity on this notice