ThomasHIGHAM (Tom)HIGHAM - THOMAS (Tom), . Gorffennaf 16eg, 2021. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, yn 80 mlwydd oed o 67 Morfa'r Garreg, Pwllheli. Priod annwyl y ddiweddar Eurddolan (Lol), tad arbennig Dawn, Martin a Cheryl, tad-yng-nghyfraith Michael, Julie a Dylan, taid balch Sion, Mathew, Emma, Josh, Nicky, Awel a Cai a hen daid i Elen Medi ac Alaw Fflur, hoff frawd Marie, Frances a'r diweddar Joe, Tecwyn ac Alun. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Mawrth, Gorffennaf 27ain am 1.30 o'r gloch. Bydd yr hers yn cychwyn o 67 Morfa'r Garreg am 12 o'r gloch yna yn trafeilio ar hyd Ffordd traeth Marian - de, ac ymlaen trwy ffordd Caerdydd am Orsaf Ambiwlans Pwllheli, ac ymlaen i Fangor. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Tom tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru trwy law G D Roberts a'i Fab Cyf, Capel Gorffwys, Pwllheli, 01758 701107.
Notify me with new activity on this notice