Siân EirianwenHUGHESHUGHES - SIÂN EIRIANWEN, 4 Chwefror, 2020. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, wedi brwydr faith y'i hysgwyddodd yn ddewr a di-gwŷn, ac o 49 Llwyn Beuno, Bontnewydd, yn 46 mlwydd oed. Mam arbennig Tomos ac Anest, cymar cariadus a ffyddlon Dylan, merch amhrisiadwy Gwennie a'r diweddar Ken, a chwaer annwyl Wendy a Gary, Arwel a Delyth. Hefyd modryb hoff Rhys a Hannah, a chyfaill triw i lawer. Angladd brynhawn Iau, 13 Chwefror, 2020. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Glanrhyd, Dinas, Llanwnda am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Llandwrog. Croesewir gwisg liwgar, yn ôl ei dymuniad. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Siân tuag at Ward Alaw Ysbyty Gwynedd ac Awyr Las. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Notify me with new activity on this notice