Dorothy JuneJENKINSYn dawel, yn Ysbysty Glangwili, Caerfyrddin, ar fore Sul 18fed o Orffennaf, bu farw June, Ger-y-nant, Hendygwyn, priod a chariad ffyddlon Mel, mam ardderchog Neil a Paul, mam-yng-nghyfraith barchus Heather a Carolyn mamgu gariadus Dafydd, Sion, Rhys a Lowri a'u partneriaid Cecilia, Emilia a Nia, Hen-famgu balch Caio a chwaer ffyddlon. Yn unol a'r cyfyngiadau presennol cynhelir gwasanaeth angladdol preifat yng Nghapel y Tabernacl, Hendy-gwyn ddydd Mercher, Gorffennaf 28ain am 12 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Soar. Dim blodau. Rhoddion os dymunir i'w rannu rhwng elusen Motor Neurone a Meddygfa Taf, Drwy law Mr Ithel Parry Roberts. Ymholiadau pellach i Ken Davies a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Clunderwen. 01437 563319
Notify me with new activity on this notice