Tomos IfanRIDENHOUR (Tom)RIDENHOUR - TOMOS IFAN (Tom) Overland Park, Kansas. Yn frawychus o sydyn, yn ei gwsg bu farw Tomos ar Fehefin 30ain yn 24 mlwydd oed. Ganwyd Tomos ar Fedi 24ain 1994 yn Overland Park. Cafodd ei fagu yn Lenexa, Kansas. Mynychodd Ysgol Uwchradd 'Blue Valley' a graddiodd yn 2013.Treuliodd ei fywyd wedyn yn y Brifysgol yn Kansas, ac yna ym Mhrifysgol Avila. Enillodd Radd Bagloriaeth Gwyddoniaeth mewn Nyrsio. Cafodd gydnabyddiaeth am Arweinyddiaeth o'r Radd Flaenaf. 'Roedd newydd ddechrau Gradd Meistr ym Mhrifysgol Missouri, Kansas ac yn gweithio fel Nyrs Gofrestredig yng Nghanolfan Feddygol Kansas.'Roedd Tomos yn ffrind i bawb, yn meddwl am eraill bob tro. 'Roedd wrth ei fodd yn treulio ei amser hamdden yn trefnu nosweithiau'n llawn hwyl i'w deulu a'i ffrindiau. Mab cariadus I Bob ac Eleth (gynt o Garreg Gron Garndolbenmaen). Brawd annwyl i Lee (Mary), ŵyr ffyddlon i Betty Ridenhour, nai hoffus i Carol Matsch (Ron), Dewi Pritchard (Ann), Menna Vaughan, Elin Williams (Alun ) ac yn gefnder hyfryd i lawer. Ŵyr ffeind y diweddar Walter Ridenhour, Arfon ac Olwen Pritchard.Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Tomos tuag at Ysgoloriaeth Nyrsio Tomos Ridenhour. 'The Thomas Ridenhour Endowed Memorial Scholarship'Children's Mercy Hospital.Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus heddiw yn Eglwys y Methodistiaid yn 'Asbury Avenue' Kansas am hanner awr wedi saith yr hwyr amser ni yma. Gofynnir i bawb feddwl am Tomos, y teulu a'i ffrindiau.Dymuna'r teulu ddiolch I bawb am bob arwydd o gydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn eu galar. Cyswllt: Dewi Pritchard 01766530307.
Notify me with new activity on this notice
Enter your email address to recieve a notification for any new activity on this notice.
Register today to set up custom notification and save notice's that are important to you.
Just notify me
Register too
Are you sure you want to turn off notifications on this notice?