Mariann mor annwyl. Dwi'n methu credu dy fod wedi ein gadael ac yn meddwl am Martin, Llion a dy deulu i gyd ar yr adeg mor drist 'ma. Chdi oedd 'gwyneb' BBC Bangor - mor groesawus, effeithlon ac annwyl wrth gyfarch pawb. Y 'golden girl.' Does neb i lenwi dy 'sgidiau. Chdi oedd wrth fy ochr ar fy awr dywyll yn Ysbyty Gwynedd, yn chwerthin a malu awyr - ac am unwiath yn dy fywyd doedd y 'Reception' ddim mor bwysig!!! DIOLCH.
Ma'r byd ma'n wych ond yn greulon yn dy ddwyn di oddi wrth dy annwyliaid cyn dy amser. Carpe diem - diolch am ein atgoffa bod yn rhaid byw bob dydd, byw i'r funud. So Long, Mariann(e) un o fy hoff ganeuon - sydd o hyd yn dod a dy lun di i fy meddwl, fwy fyth rwan. Cwsg, fy ffrind xxx Martin a Llion - I have no words, I'm thinking of you at this terrible time and sending you much love and strength. The best people leave the best footprints, hold on tight to your precious memories of a remarkable woman. Cariad mawr, Karen xx
Karen MacIntyre Huws (nee Peacock):
16/02/2023