OWEN JONESJONES - OWEN Tachwedd 9fed 2012 yn dawel yng nghartref Brwynog, Amlwch yn 91 mlwydd oed o Y Groeslon, Rhosybol (gynt o Glasgraig Fawr). Priod annwyl y ddiweddar Lena, tad tyner Jane a'r ddiweddar Eirlys, tad yng nghyfraith Hugh a Peter, taid balch Nicky, Catrin, John a Bethan, hen daid Laura, Harri, Gethin, Cian, Eliot ac William, brawd hoff Huw, Glyn ac Ella. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a ffrindiau oll. Angladd ddydd Sadwrn Tachwedd 17eg, preifat i'r teulu yn Glasgraig Fawr am 12.30 y prynhawn, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Penygarnedd, Rhosgoch am 1.00 y prynhawn. Rhoddir i orffwys ym mynwent y Rhyd, Cemaes. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Capel Penygarnedd trwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands, Minafon, Stryd yr Eglwys, Llangefni, Ynys Mon. LL77 7DU. Ffon 01248 723111
Notify me with new activity on this notice