Y Parchedig HuwJONESJONES - Y PARCHEDIG HUW, Medi 7, 2017. Medi 7, 2017. Yn dawel yng Nghartref Bryn Seiont Newydd, Caernarfon, (gynt o Dolarddun, Rhuddlan) yn 97 oed. Priod ffyddlon y ddiweddar Megan, brawd hoff Glyn ac Ella, tad doeth ac annwyl Sioned a'i phriod Arfon Gwilym a Cemlyn, taid balch Llew, Gwion, Rhodri ac Iago, ffrind Charlotte a hen daid Kai Llywelyn ac Enia. Gwasanaeth cyhoeddus ym Mynwent y Llwyn, Llanelwy, ddydd Iau, Medi 14 am 3 y prynhawn. Gwasanaeth cyhoeddus o ddiolch a dathlu'i fywyd yng Nghapel Tegid, Y Bala, ddydd Sadwrn, Medi 16 am 2 y prynhawn. Dim blodau yn ?l ei ddymuniad, ond derbynir yn ddiolchgar roddion tuag at Raglen Cyfoethogi Bywyd, Bryn Seiont Newydd ac at Blaid Cymru. Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr, Arwel a Ieuan Hughes o John Hughes a'i Fab, Britannia, Porth Amlwch, LL68 9HA. Ff?n: 01407 830461. "Efe a ddychwel fy enaid".
Notify me with new activity on this notice