DavidEVANSEVANS - DAVID WYN (Dafydd). Mehefin 1af, 2009. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, ac o 8, Llwyn y Ne, Clynnog Fawr yn 82 mlwydd oed. Mab annwyl y diweddar David Rice a Laura Evans, brawd ffyddlon Wil, Sam a Betty a'r diweddar Griffith John, Eleanor, Sarah, Laura ac Edwin, brawd yng ngyfraith Margaret ac ewythr hoff i'w neiaint a'i nithoedd. Angladd dydd Sadwrn, Mehefin 6ed. Gwasanaeth preifat yn ei gartref am 11.00 y.b. ac i ddilyn yn gyhoeddus ym mynwent Capel Uchaf. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Dafydd at Feddygfa Dolwenith, Penygroes, a Chronfa Ymchwil y Cancr, Ysbyty Gwynedd, drwy law yr ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Notify me with new activity on this notice