BerylJONESJONES – BERYL ELIZABETH ar y 1af o Fai 2014, o Awelon, Llangwm; gynt o’r Wenallt, Rhosygwaliau, yn 88 mlwydd oed. Priod ofalus y diweddar Wynn, mam amrhisiadwy Rhian a’r diweddar Arwel, a mam-yng-nghyfraith Dewi. Nain anwylaf Iolo, Alaw a Mari, Deian, Ynyr ac Aled. Hen Nain oedd â meddwl y byd o Hari a Begw, Liwsi Glwys, Hari Wynn, Ffion, Elin ac Anni, Cian ac Efan. Chwaer y diweddar Alwenna a chwaer-yng-nghyfraith a ffrind ffyddlon Dei. Angladd teuluol ym mynwent Llangywer am 1 o’r gloch ac yna gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Llangwm, am 2 o’r gloch, i gofio ac i ddiolch am ei bywyd. Blodau gan y teulu’n unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion tuag at Canolfan Iechyd y Bala. Ymholiadau i A G Evans a’i Feibion, Y Bala, 01678 520660.
Notify me with new activity on this notice