Catherine EirlysJONES (Eirlys)JONES - CATHERINE EIRLYS (Eirlys), 6 Chwefror, 2021. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, ac o Yr Hen Dŷ, Clynnog Fawr, yn 72 mlwydd oed. Gwraig annwyl David, a mam arbennig i Dylan a Gwenlli; nain gariadus i Gethin, Eleri a Lliwen, merch ffyddlon Morfudd a'r diweddar Robert Roberts, a chwaer addfwyn i Alun, Eirina, Rhian a'u teuluoedd. Angladd fore Llun, 15 Chwefror, 2021. Gwasanaeth ger y bedd ym mynwent Brynaerau am 11.30 o'r gloch, i gydfynd â'r rheolau Covid cyfredol. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Eirlys tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd trwy law Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice