Ann Eleri (Anti Leri)JONESMawrth 3ydd 2023. Fe hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd o Dolwyn, Rhos y Gad, Llanfairpwll, yn 72 mlwydd oed. Cymar ffyddlon y diweddar Dafydd, merch y diweddar Benjamin (Ben) a Mary Jones, chwaer annwyl Rhiannon, Eirlys a William, chwaer yng nghyfraith Carol a'r diweddar Alwyn. Modryb balch Dyfed, Delyth, Sharon, Dylan, Caryl, Lowri a Llion a modryb gariadus ac arbennig i'r nithoedd a'r neiaint eraill i gyd. Mawr iawn fydd ei cholled a hiraeth amdani. Gwasanaeth yng Nghapel Rhos y Gad, Llanfairpwll ddydd Iau, Mawrth 16eg am 12.00 o'r gloch, gyda Gwasanaeth Cyflwyno i'w ddilyn yn Amlosgfa, Bangor am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion, os dymunir er cof yn ddiolchgar tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd drwy law Gwenan Roberts o W. O. a M. Williams, Rose & Thistle, Llanedwen, LL61 6PX. Ffôn 01248 430312.
Notify me with new activity on this notice