Catherine EdwinaJONESYn dawel yn ei chartref yng nghwmni ei theulu ar ddydd Sadwrn, 2il o Fawrth 2024 hunodd Edwina, Henllys, Dan y Dderwen, Rhydargaeau yn 93 mlwydd oed. Priod hoff a ffyddlon y diweddar Wynford, mam annwyl iawn a chariadus Bethan, mam-yng-nghyfraith barchus David, mam-gu gofalgar Sara, Mari a'i gŵr Sam, a Sophie, 'Mama' balch Max a Bonnie.
Mae'n golled enfawr i'w theulu a'u ffrindiau.
Angladd Gyhoeddus ddydd Sadwrn, 16eg Mawrth 2024 yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 11.30yb.
Blodau'r teulu yn unig.
Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at: "British Heart Foundation Cymru" trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG 01267 237100
Notify me with new activity on this notice