MeganROBERTSROBERTS - MEGAN. (Margaret Jones) Hydref 31 2016. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Plasgwyn, Pentrefelin yn 91 mlwydd oed, o 11 Adwy Ddu, Penrhyndeudraeth. Gwraig ffyddlon y diweddar Dafydd Bryn Roberts. Mam gariadus i Caryl ac Eric, Iona a Wil, Ifan a Carina a'r diweddar Elfyn. Nain ffeind ac annwyl i Derwyn, Trystan, Islyn, Ian, Tesni, Gethin, Erin, Guto ac Owain, ac yn Hen-nain arbennig i'r plant bach. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Tabernacl, Penrhyndeudraeth ar ddydd Sadwrn 5ed o Dachwedd 2016 am 11.00 o'r gloch y bore gan ddilyn i'r teulu yn unig ym Mynwent Minffordd. Blodau'r teulu agos yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog. 01766 512091.
Keep me informed of updates