JonesMAIRGras Saunders Yn dawel ddydd Mawrth, Chwefror 1, 2011, bu farw Mair Gras Saunders Jones Swyn-yr-Awel, Bwlchygroes, Llandysul yn 84 mlwydd oed, priod annwyl Haydn, mam ofalus a chariadus Marged Elen, Siwan a Dyfrig, mam-yng-nghyfraith hoffus Emyr, nain addfwyn Owen, Iwan, Sian, Twm a Guto. Cenedlaetholwraig ac yn hoff o'i 'Chateauneuf du pape'. Gwasanaeth cyhoeddus ddydd Llun, Chwefror 14 yn Eglwys Gatholig Sant Joseff, Penarth am 1.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir cyfraniadau tuag at Gymdeithas Yr Iaith Gymraeg trwy law y Trefnydd Angladdau Mr Colin Phillips 4 Stryd Morgan, Aberteifi SA43 1DF Ffon; 01239 621192.
Keep me informed of updates