Annie RoderickSELWOOD(Nansi) Cyn athrawes, ffermwraig, hanesydd leol, awdures, ac aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn dawel yng Nghartref Gofal y Laurels, Trecynon, Aberd?r, ar Ddydd Sadwrn Chwefror 18, Nansi, 95 mlwydd oed, gwraig annwyl y diweddar Jack (Fferm Pencae, Penderyn), Mam annwyl i Ann, Helen, David, Rhian, a mam-yng-nghyfraith i Fiona a Ron, Mamgu a hen-famgu gariadus. Cynhelir y gwasanaeth angladdol ar Ddydd Gwener Mawrth 3, yng Nghapel Ramoth, Hirwaun, am 1.30y.p., claddedigaeth yng Nghapel Siloam, Penderyn am 2.30. Wedyn, bydd lluniaeth yng Ngwesty Ty Newydd, Penderyn. Blodau gan y teulu yn unig. Rhoddion os dymunir i'r RNIB, drwy law Richards Funeral Services Ltd. 74 Harriet St, Trecynon, Aberdare, CF44 8PL. Tel. 01685 878121.
Keep me informed of updates