Grace AnnHUGHES2 Medi 2024.Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd o Foundry Crossing, Fali yn 94 mlwydd oed. Annwyl briod y diweddar Ted Hughes, mam hoff John, Ellen, Cyril a William, nain gariadus Duane, Ceri, Tracy, Glen a'r ddiweddar Donna, hen nain balch Bethany, Benjamin, Mckenzie, Lexi, Leah, Jody a Harry. Gwelir ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll. Angladd dydd Iau, 12 Medi. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Preswylfa, Fali am 11.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym mynwent Eglwys Llantrisant. Derbynnir blodau neu rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ward Prysor, Ysbyty Gwynedd trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Grace