BrendaDAVIESDAVIES - BRENDA , Nant Hir, Mawrth 19, 2021. Yn dawel wedi gofal dwys yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn 69 mlwydd oed. Merch ofalus ac ymroddgar Annie J Davies a'r diweddar Richard R Davies, chwaer annwyl a thriw ei brodyr a'i chwiorydd a'u teuluoedd a ffrind ffyddlon i lawer. Gwasanaeth preifat yn ei chartref 'Gwynllys' Frongoch am 1yp ar y 27ain o Fawrth, 2021 ac i ddilyn ym mynwent Frongoch. Byddwn yn gadael Gwynllys yn dilyn y gwasanaeth, i'r rhai ohonoch fyddai'n hoffi dod allan i dalu'r deyrnged olaf i Brens, byddwn yn cerdded i fyny i'r fynwent, gan gofio pwysigrwydd cadw at reolau pellter cymdeithasol. Os dymunir, derbynnir rhoddion er cof amdani yn ddiolchgar trwy law Mr Peredur Roberts tuag at Gangen o Gymdeithas Cyfeillion Ysbyty Maelor cylch Bala a Phenllyn, lle bu Brenda yn ysgrifenyddes am flynyddoedd lawer. Peredur Roberts, Derwgoed, Llandderfel, Bala, LL237HG, 01678 530239
Keep me informed of updates