Margaret ElnoraDAVIESNora Yn dawel yng Nghartref Gofal Y Garreg Lwyd, Sanclêr ar ddydd Llun, 7fed o Fehefin yn 95 mlwydd oed hunodd Nora, gynt o Rhydygors, Sanclêr. Priod ffyddlon y diweddar Elwyn, mam ofalus Eiryl ac Isobel, mam-gu arbennig Christie, Eleri, Rhian a'r diweddar Clive, hen fam-gu gariadus Elnora, mam-yng-nghyfraith barchus Trevor a Damian, chwaer annwyl Sally, Billy, Elfyn a'r diweddar Della ac Alun a chwaer-yng-nghyfraith hoffus. 'Nora died as she lived, with grace and dignity'. Yn unol â'r cyfyngiadau presennol, cynhelir gwasanaeth preifat ym mynwent Gibeon, Bancyfelin. Ymholidau pellach: Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Caerfyrddin. Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret