EdnaFRANCISYn dawel ar Chwefror 28fed 2021 yng Nghartref Gofal Gwernllwyn, Cross Hands yn 94 mlwydd oed, bu farw Edna gynt o Ty Marrim, Bronwydd. Priod ffyddlon y diweddar Wallie, mam ofalus Violet, Jean a Huw, mam-yng-nghyfraith, chwaer, mam-gu a hen fam-gu annwyl. Yn unol a'r cyfyngiadau presennol cynhelir gwasanaeth preifat yng Nghapel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin ac yna ym mynwent Peniel. Ymholiadau pellach: Glanmor D Evans a'i Fab, Caerfyrddin. Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates