Siân ElfynJONESJONES Siân Elfyn Hunodd yn dawel ar Chwefror 4ydd, yn ysbyty Glangwili, yn 76 oed, Siân o Heol Cwm Mawr, Drefach. Merch hynaws y diweddar Barchedig T. Elfyn Jones a Rachel Mariah (Myra) Jones, chwaer gariadus Geraint a Menna, chwaer-yng-nghyfraith ffyddlon Elisabeth a Wynfford, modryb ymroddgar Sara, Bethan, Rhys, Owain, Fflur a Meilyr, a hen fodryb heb ei hail. Angladd ar Chwefror 26ain, 2020. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seion, Drefach am 11.15yb. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili drwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626
Keep me informed of updates