Esther AnnaMATHIASYn dawel yng Nghartref Henllan brynhawn Llun, Ionawr 6ed 2020, hunodd Esther, Aelybryn, Bryn Iwan. Priod ffyddlon y diweddar Glyn, mam dyner a gofalus Rhiannon a chwaer y diweddar Dai, Sal, Daniel, Catherine a Bessie. Angladd ddydd Sadwrn, Ionawr 11eg, gwasanaeth preifat yn y tŷ am 12.00 a chyhoeddus ym Mryn Iwan am 12.30. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion yn lle blodau, os dymunir, i'w rhannu rhwng Meddygfa Emlyn a'r Nyrsus yn y Gymuned trwy law Mr David Evans, Cae'r Gog, Trelech, Caerfyrddin SA33 6RU.
Keep me informed of updates