Gwenda LloydWILLIAMS12 Ebrill, 2026.
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Bryn Awelon Cricieth, ac o Tan y Bryn, Carmel, yn 66 mlwydd oed.
Mam ofalus Llio a Huw, a Guto a Manon; nain falch Nancy, merch addfwyn Olga, merch-yng-nghyfraith hoff Helen a chwaer annwyl Helen Mai, Ann, Bob a'r diweddar Gwilym ac Alan. Hefyd modryb, cyfnither a ffrind triw i bawb oedd yn ei hadnabod. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd fore Iau, 7 Mai, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Calfaria, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Gwen tuag at yr elusen Shine - Spina Bifida & Hydrocephalus.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates