Evan Davy Nefyn DaviesDAVIESDewi Wernddu Yn dawel ar ddydd Mawrth Medi 22ain 2020 yn 83 mlwydd yng nghartref Maesyfelin, Drefach, Llanybydder hunodd Dewi, Wernddu, Cribyn gynt. Brawd hoffus y diweddar Eurwen, ewythr gofalus y diweddar Olwen a Meinir a'u gŵyr Mike ac Ian a hen ewythr caredig Rhian, Rhodri a Ffion. Angladd hollol breifat yn unol â'r amgylchiadau yng Nghapel Undodaidd Cribyn ddydd Mawrth Medi 29ain 2020 am 11 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Capel y Bryn, Cwrtnewydd. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion os dymunir tuag at Llyfrau Llafar, trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates