Eirwen LloydMORGANEirwen Lloyd Morgan, 8 Llain yr Eglwys, Penrhyndeudraeth a gynt o Trigfa, Garndolbenmaen. Mae Ken a'r teulu yn dymuno diolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli Eirwen, person â gwên siriol ac yn barod ei diolch bob amser. Gwerthfawrogir yn fawr yr holl gardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau. Diolch i'r Parchedig Christopher Prew am ei wasanaeth cynnes a theimladwy. Hefyd ei deyrnged hyfryd a ddarllenwyd gan Sian Hyderf, nith Eirwen, hyn gydag urddas a hiwmor. Diolch hefyd i swyddogion Capel Bethel, Golan am eu cydweithrediad dydd yr angladd ac i Mrs Ann Jones, Porthmadog am gyfeilio. Mawr yw y diolch am y rhoddion ariannol tuag at Gapel Jerusalem y Garn. Diolch hefyd i nyrsys Ysbyty Bryn Beryl am eu gofal caredig, ac i Dylan o Pritchard a Griffiths Cyf, Tremadog, yr Ymgymerwyr, am y gofal a threfniadau trylwyr.
Heol Dulyn,Tremadog, Gwynedd, LL49 9RH 01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates