Mary ValerieTHOMASYn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar ddydd Llun Mawrth 3ydd 2025 hunodd Mary, Afallon, Ffostrasol yn 90 mlwydd oed.
Priod hoff y diweddar Tom, mam dyner a gofalus Clive, modryb, perthynas a ffrind annwyl.
Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yn Eglwys Sant Cynon, Capel Cynon dydd Gwener Ebrill 4ydd 2025 am 2.00 o'r gloch ac yna i ddilyn rhoddir i orffwys yn Mynwent Capel Bwlchygroes, Llandysul.
Plethdorch y teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at 'Meddygfa Llynyfran' Llandysul trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pâl, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffôn (01239) 851005
Keep me informed of updates