John RobertPARRY29 Tachwedd, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref ym Mryn Llwyn, Pen-y-groes (gynt o Lanllyfni), yn 83 mlwydd oed. Priod annwyl Nancy (Nans), a thad arbennig iawn Hywyn, Idwen, Gwynant a'r diweddar Alwena; tad-yng-nghyfraith hoff Sarah, Cleif a Dawn, taid caredig a hwyliog Melanie, Llŷr, Llywela, Helen, Annie, Mali, Cian a Begw, hen-daid balch Jamie, Matthew ac Olivia, a brawd hoffus Nellie, Doreen, Joyce a Sonia. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Gwener, 20 Rhagfyr, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am hanner dydd, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am John tuag at gronfa Nyrsys Cymunedol Pen-y-groes. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates