Evan BenjaminJONESHunodd yn dawel nos Wener 16eg Hydref 2026, yn 95 mlwydd oed, Evan Benjamin, Hendrewen, Tyn-y-graig, Ystrad Meurig. Priod annwyl y diweddar Bethan, tad tyner a gofalus Ellen, Tom a Dafydd, tad-yng-nghyfraith hoffus Ian, Delyth a Mererid, tadcu addfwyn Dwynwen, Rhiannon, Emrys, Osian, Buddug, Alys, Anest, Bedwyr a Luned.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Gwnnws, Tyn-y-graig, Ystrad Meurig, ddydd Llun, 2ail Tachwedd 2026 am 1 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, tuag at "Cymdeithas y Deillion Ceredigion" a "Cronfa Mynwent Eglwys Gwnnws" trwy law Gwyneira Evans, Pentre, Gwnnws, Ystrad Meurig, Ceredigion, SY25 6AQ.
Ymholiadau pellach i Dylan Wyn Jones, Tom Eurfyl Jones a'i Fab, Trefnwr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB, Ffon: (01974) 298500
Keep me informed of updates