EmrysDAVIESHunodd yn dawel yng nghartref Plas Gwyn ar y 19eg o Ionawr yn 93 mlwydd oed.
Priod annwyl Kate. Tad a thad yng nghyfraith i Glyn a'r diweddar Beryl, Alun a Marian, Ifan a Siwan a'r diweddar John. Taid hoffus i Geraint, Glesni, Iwan, Catrin, Sioned, Emrys, Arwel, Donna, Buddug, Fflur, Swyn a Mari a hen daid balch i dri ar ddeg.
Ar ddydd Sadwrn, Chwefror 3ydd, cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yn yr Hen Gapel, Llanuwchllyn am 1:00 o'r gloch ac i ddilyn yn y fynwent Newydd.
Blodau teulu'n unig, ond derbynni'r rhoddion yn ddiolchgar er cof am Emrys tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a Parkinson's UK.
Ymholiadau: Peredur Roberts, Derwgoed, Llandderfel, Bala, LL237HG 01678 530239
Keep me informed of updates