HeulwenJONESHogan Llanbêr Dydd Mercher, 18fed Rhagfyr 2024
Yn dawel yng nghartref gofal Yr Wyddfa, Llanberis. Ar ôl gofal caridaus gan Gwenda a'i theulu ac gan y cartref gofal. Yn 92 mlwydd oed. Priod y diweddar Lal Jones. Mam arbennig i Gwenda ac Aled. Nain a hen nain chariadus i Iwan, Elin, Mari, Swyn a Saran. Chwaer agos at Glenys a modryb balch i Helen, Lynwen ac Elfyn.
Roedd yn hoffus ac yn ffrind i pawb yn y 'pentra'.
Ei dymuniad oedd angladd tawel ac preifat, ac felly y bu ar 3ydd Ionawr 2025 yn amlosgfa Bangor ac yna yn fynwent Nant Peris.
Dymuna'r teulu ddiolch am y cydymdeimladau caredig a'r rhoddion er cof am Heulwen i elusen lleol. Diolch o galon i'r ymgymerwyr E.W. Pritchard, Llanberis am eu gwasanaeth arbennig.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Heulwen