AledJONES1af Mawrth 2025, yn frawychus o sydyn ac o Barrach Fawr, Llangian yn 65 mlwydd oed. Cymar arbennig y diweddar Cathrin Thomas, llys-dad a ffrind gofalgar i Llinos a'i theulu, brawd hoffus Hugh a'i briod Carol, ewythr annwyl Arwel ac Einir a ffrind triw i lawer. Angladd hollol breifat yn ôl ei ddymuniad. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Aled tuag at Bad Achub Abersoch trwy law Rhys ac Eluned Jones, Ysgubor Ddegwm, Llangian (Siop Llangian), Pwllheli, Gwynedd, LL53 7LN neu trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238.
Keep me informed of updates