IorwethEVANS(Iori Cae'r Berllan) Hunodd yn dawel yn Ysbyty Bronglais, dydd Sul 16eg o Chwefror, o Bron Y Gader, Abergynolwyn, yn 78 mlwydd oed. Priod annwyl Pat, tad balch Philip ac Adrian, tad-yng-nghyfraith hoffus Jennie a Tanja, taid cariadus Rebecca, Jessica, Kayleigh, Bethany, Alina, Erin-Jade a hen-daid annwyl Rory. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau.
Angladd cyhoeddus yn Eglwys Sant Michael, Llanfihangel-y-Pennant, dydd Gwener, 14eg o Fawrth am 11 o'r gloch. I ddilyn yn y Fynwent.
Yn lle blodau, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, tuag at Ward Caredig, Ysbyty Bronglais drwy law'r ymgymerwr.
Benjamin Thomas Gwasanaethau Angladdau Ôl-ofal, Stryd Fawr, Tywyn, LL36 9AD Ffôn: 01654 713975
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Iorweth