Iris ElizabethOWENYn dawel yn ei chartref fore Mawrth, 13eg Mai, 2025 bu farw Iris, Waunwern, Heol y Bowls, Blaenporth yn 75 mlwydd oed.
Priod cariadus Gerwyn, mam hoffus a ffyddlon Lisa, Diane a Meryl, mam-gu ymroddgar Sadie, Iwan, Dafydd, Sioned, Sion, Elin a Manon a mam-yng-nghyfraith Dai ac Eilir.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Mercher, 4ydd Mehefin am 12.15 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig, derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at "Tŷ Geraint Palliative Care" trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion. SA44 6QS. (Ffôn 01239 654240)
Keep me informed of updates