TecwynOWENRhos Helyg, Dolgellau
Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Bronglais, dydd Iau 22ain o Fai, yn 88 mlwydd oed.
Priod annwyl Eurwen, tad balch Sian a Dylan, Datcu cariadus Heledd a Mirain, tad-yng-nghyfraith hoffus Bethan a Dean. Mae'r golled yn fawr ar ei ôl.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Tabernacl, Dolgellau, dydd Llun 9fed o Fehefin 2025 am 11:00 y bore ac i ddilyn ym Mynwent Tref Dolgellau.
Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at yr hosbis plant, Tŷ Gobaith, drwy law'r ymgymerwr.
Benjamin Thomas Gwasanaethau Angladdau Ôl-ofal 5 Rhes Eldon, Dolgellau, LL40 1PY Ffôn: 01654 713975
Keep me informed of updates