TegwenEVANSYn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ddydd Sadwrn Awst 20, Tegwen, Waundeg, Hermon, Cynwyl Elfed; gwraig annwyl Ieuan, mam Sheila, Alan a Christine, mamgu Marc, Stephen a Joanne a hen famgu Daniel. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Bryn Moriah, Bryn Iwan ddydd Gwener Awst 26 am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion, os dymunir, i Ward Tywi Ysbyty Glangwili a Meddygfa Emlyn, Castellnewydd Emlyn trwy law'r trefnwr angladdau, Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6TE. Ffôn. 019984540.
Keep me informed of updates