Gwenllian Haf PuwJONESYn dawel yng Nghartref Bodawen, gynt o Cynlas, Y Ddôl, Porthmadog, dydd Iau, y 1af o Awst 2024. Gweddw annwyl y diweddar Vernon Jones a Tom Puw. Mam gariadus Sian, Tudur, Geraint ar diweddar Anwen. Mam yng nghyfraith hoffus Haydn, Wyn, Helen, Marian a'r diweddar Geraint. Llysfam annwyl y diweddar Gwyn. Nain ofalus Gwenno, Sara, Huw, Ifan, Owen, Lowri, Elen, Manon, Gwenan, Bedwyr, Awen, ac Elis a Hen Nain garedig i'w holl orwyrion a'i gorwyresau. Merch y diweddar John ac Annie Mary Evans. Chwaer fach y diweddar Hugh, Lewis, Herbert, Rhiannon, Artro, Mair, Gwynfryn ac Arthur. Gwasanaeth cyhoeddus dydd Llun y 12fed o Awst am 1.30 o'r gloch yng Nghapel y Porth, Porthmadog ac yna i ddilyn ym Mynwent Minffordd. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er côf am Gwen i Ysgol Sul Capel y Porth. Dymuna'r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad, cefnogaeth, cariad a nerth. Ymholiadau pellach a rhoddion i'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths, Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH. 01766512091
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH 01766 512091 -post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwenllian